Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis

Cross Party Group on Coeliac Disease & Dermatitis Herpetiformis

 

Dyddiad ac amser:                        Nos Fawrth 26 Ionawr 2016, 18.00 - 19.45

                                                Tuesday 26 January 2016, 18.00 – 19.45     

Lleoliad:            Ystafell Gynadledda D, Tŷ Hywel  .

                            Conference Room D - Tŷ Hywel

 

 

1.       Yn bresennol: Aled Roberts AC (Cadeirydd), Jackie Radford (Ysgrifennydd), Rhun ap Iorwerth AC, Norma McGough, Tristan Humphreys, Dr Jill Swift, Dr Geraint Preest, Alison Jones, Graham Phillips, Jean Dowding, Dr Chris Jones.

Ymddiheuriadau: Dr Dai Lloyd, Henry a Bronwen Wilkins, Huw Jenkins, Heather Stephen, Carol Carpenter, Simon Thomas, Kirsty Williams a Jeff Cuthbert

2.       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2015

a.       Diwygiadau a chymeradwyo’r cofnodion

 Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15  Hydref o ran cywirdeb. 

b.      Materion yn codi o'r cofnodion:

         Adroddiad Blynyddol i'w gyflwyno (cwblhawyd)

         Gwahoddiad i’r Gweinidog i gyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol (cwblhawyd)

         Adroddiad ar Wasanaeth Bwyd heb Glwten yr Alban (GFFS) i’w rannu (cwblhawyd)

         Rhoi gwybod i'r aelodau am amseroedd ymgynghori ynghylch 'Mynediad i Addysg a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Meddygol' (cynhwyswyd yn yr ymateb gan Dr Chris Jones)

 

3.       Cwestiynau i Dr Chris Jones (Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru)

Gweler y dogfennau ategol am drawsgrifiad llawn a chrynodeb o'r ymatebion.

4.       Y wybodaeth ddiweddaraf

a.       Presgripsiynau

Rhoddodd NMG y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau o ran rhagnodi bwyd heb glwten yn Lloegr. Bu llawer o weithgarwch yn ystod yr wythnosau diwethaf: -

·         Mae pedwar Grŵp Comisiynu Clinigol (CCGs) wedi rhoi'r gorau i ragnodi bwyd heb glwten yn gyfan gwbl yn Lloegr.

·         Mae pedwar wedi rhoi'r gorau i ragnodi i oedolion tra'u bod yn cadw darpariaeth gyfyngedig i blant.

·         Mae 25% o Grwpiau Comisiynu Clinigol yn cael gwared â’r ddarpariaeth neu’n ymgynghori ynglŷn â hynny.

·         Mae 70% yn parhau i ragnodi yn unol â Chanllawiau Rhagnodi Cenedlaethol.

·         Mae CUK yn galw ar Grwpiau Comisiynu Clinigol i fonitro’r effaith ar iechyd cleifion sydd â chlefyd seliag lle mae'r ddarpariaeth yn cael ei chyfyngu.


Mae llawer o gyfathrebu’n digwydd rhwng CUK, Grwpiau Comisiynu Clinigol ac aelodau. Mae  CUK hefyd yn gweithio'n agos gyda grwpiau seliag lleol yn yr ardaloedd hynny lle mae'r ddarpariaeth yn cael ei lleihau er mwyn deall yr effaith yn well.

Mynegodd JD bryderon am effaith dileu’r cymorth hwn ac a oedd Grwpiau Comisiynu Clinigol yn sylweddoli niwed posibl mesurau o'r fath.  Cafwyd trafodaeth ynglŷn â’r rhesymau y tu ôl i’r newidiadau hyn a theimlwyd ei fod yn bennaf o ganlyniad i bwysau ariannol. Nododd NMG fod Grwpiau Comisiynu Clinigol unigol yn dod o dan yr un Uned Gwasanaeth Comisiynu (CSU) felly ar ôl i un Grŵp Comisiynu Clinigol yn yr Uned gael polisi cyfyngedig mae hyn yn aml yn cael effaith raeadru fel sy'n digwydd yn East Anglia er enghraifft.  Soniodd AR fod modelau cyllid yn aml yn seiliedig ar batrymau hanesyddol yn hytrach nag angen, gan arwain at batrymau ariannu cymhleth. Mae cyfyngiadau ar ragnodi bwyd heb glwten yn achosi anghydraddoldebau iechyd yn Lloegr.

 

Esboniodd GP fod meddygon teulu dan bwysau cynyddol i gyfyngu ar ragnodi, hyd yn oed yng Nghymru, a gallai'r ffordd amrywiol y cafodd hyn ei weithredu o bosibl arwain at anghydraddoldeb. Er enghraifft, mae rhai practisau wedi dewis cyfyngu ar feddyginiaethau dros y cownter tra nad yw eraill wedi gwneud hynny. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae meddygon teulu wedi dechrau edrych ar opsiynau o ran sut i dorri costau. Cytunodd AJ a dywedodd ei bod wedi clywed pryder cynyddol gan feddygon teulu am ragnodi bwyd oherwydd pwysau gan reoli meddyginiaethau. Dywedodd GP mai ei deimlad ef oedd nad oedd meddygon teulu yn awyddus i fod yn rhan o'r broses rhagnodi bwyd heb glwten. Mae CUK yn edrych ar fodelau amgen ar gyfer cyflenwi bwyd heb glwten er mwyn rhyddhau amser meddygon teulu ac mae hyn yn rhywbeth y mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn fodlon ei gefnogi.  Dywedodd NMG mai'r mater allweddol yw sicrhau y gall cleifion â chlefyd seliag gael mynediad at brif fwyd heb glwten gan bod eu cost uwch a’u hargaeledd cyfyngedig yn y siopau yn gwneud cymorth presgripsiwn y GIG yn wasanaeth hanfodol. Eglurodd hefyd, o ganlyniad i natur hollbresennol glwten yn ein prif fwydydd, bod eu dileu yn cael effaith sylweddol ar faeth a chydymffurfiad dietegol heb glwten. Roedd hyn eto yn ymwneud ag anghydraddoldeb ac eglurodd.


Hysbysodd TH y grŵp o adroddiad sydd ar y gweill ar ragnodi ac sydd i gael sylw ar Radio Wales. Bydd y rhaglen yn edrych ar y materion sy'n ymwneud â rhagnodi bwyd heb glwten a bydd yn cynnwys cyfweliadau gyda TH ac aelodau CUK. Mae'r dyddiad i'w gadarnhau, ond mae’n debygol y bydd am 1pm ar 28  Chwefror. CAMAU I’W CYMRYD: TH i rannu manylion y darllediad pan gânt eu cadarnhau.

 

b.      Gwybodeg:

Cyflwynodd GP ffilm sydd wedi cael ei rhannu gyda meddygon teulu ledled Cymru i hybu’r feddalwedd. Cytunodd AJ i rannu'r linc gyda chydweithwyr yn ABMU. CAMAU I’W CYMRYD: GP i anfon linc i‘r ffilm drwy e-bost at AJ

 

5.       Trafodaeth am ddyfodol y Grŵp Trawsbleidiol

Tynnodd TH sylw at yr etholiad sydd ar ddod a’r posibilrwydd o newidiadau yn y Grŵp Trawsbleidiol. Mae cynlluniau i lunio adroddiad etifeddiaeth ar gyfer y grŵp er mwyn crynhoi ei waith hyd yma a'r blaenoriaethau posibl i’r grŵp ar ôl yr etholiad. Cododd AR y posibilrwydd o leihau nifer aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol a’r heriau parhaus o gynnal presenoldeb. CAMAU I’W CYMRYD: TH i ddrafftio adroddiad etifeddiaeth a chysylltu â JR. CAMAU I’W CYMRYD: TH ac AR i rannu drafft o hwn gyda'r grŵp ar gyfer adborth ym mis Mawrth.

 

6.       Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf:

Nid oedd cyfarfodydd pellach wedi'u cynllunio cyn yr etholiad. Cofnododd CUK eu diolch am holl waith caled y grŵp hyd yma ac yn arbennig yr ymrwymiad a ddangoswyd gan Aled Roberts a Jackie Radford i wneud y Grŵp Trawsbleidiol yn llwyddiant.